Mae athrawon offerynnol teithiol yn ymweld â’r ysgol yn wythnosol er mwyn darparu gwersi llinynnol, gitâr, pres, chwythbrennau a thelyn. Gall plant gwneud cais am wersi offerynnol o Flwyddyn 3 ymlaen, a’r athrawon arbenigol sy’n gyfrifol am ddewis y plant i dderbyn gwersi yn ôl canllawiau penodedig. Os na fydd plentyn yn cael ei ddewis, gall ef/hi ymgeisio eto’r flwyddyn ganlynol.
Fel rheol, gall disgyblion ddysgu chwarae un offeryn yn unig, serch hynny ystyrir ehangu’r ddarpariaeth i ddau offeryn, ond nid mwy, ar gyfer disgyblion sy’n dalentog iawn yn gerddorol.
Offeryn |
Athrawes |
Diwrnod |
|
|
|
Chwythbrennau |
Mrs Lisa Maddock |
Dydd Mercher |
Pres |
Mrs Jayne Thomas |
Dydd Gwener |
Llinynnau |
Mrs Sharon Williams |
Dydd Gwener |