Diogelu
Mae YGG Tyle’r Ynn yn cydnabod yn llwyr y cyfraniad mae’n ei wneud i amddiffyn plant.
Mae tair prif elfen i’n polisi:
- atal drwy’r gefnogaeth addysgu a bugeiliol a gynigir i ddisgyblion
- gweithdrefnau ar gyfer nodi ac adrodd am achosion, neu achosion posib o gam-drin. Oherwydd ein cysywllt o ddydd i ddydd â phlant, mae staff yr ysgol mewn sefyllfa ddelfrydol i weld arwyddion allanol o gam-drin
- rhoi cefnogaeth i ddisgyblion sydd efallai wedi’u cam-drin yn y gorffennol.
Person Dynodedig ar gyfer diogelu yw: Mr Cerith Humphreys
Dirprwy Berson Dynodedig ar gyfer diogelu yw: Mrs Lianne Vaughan
Mae ein polisi yn berthnasol i holl staff, llywodraethwyr a gwirfoddolwyr yr ysgol.
Bydd ein hysgol yn adolygu’r polisi’n flynyddol ac rydym yn ymrwymedig i ddilyn unrhyw arweiniad newydd a dderbynnir gan ERW.